Cofnodion cyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol ar Ffydd

Teithiau ffydd: Pererindota a'i effaith yng Nghymru

Dydd Mercher 1 Chwefror 2023 rhwng 12.00 a 13.15

Yn bresennol:

1.      Ainsley Griffiths – yr Eglwys yng Nghymru

2.      Altaf Hussain AS

3.      Caroline Plant –  Replenished Life

4.      Christine Abbas –  Cyngor Baha'i Cymru

5.      Colin Heyman – y gymuned Iddewig

6.      Darren Millar AS (Cadeirydd)

7.      Elliott Vanstone –  Cynhadledd Esgobion Catholig Cymru a Lloegr

8.      Gareth Edwards – y Sefydliad Cristnogol

9.      Gethin Rhys – Cytûn

10.  Jaeyeon Choe (Siaradwr)

11.  Jim Stewart (Ysgrifennydd a chofnodwr)

12.  Jonathan Isaac

13.  Lee Gonzalez – staff cymorth Aelod (Joel James AS)

14.  Mark Isherwood AS

15.  Molly Conrad – yr Eglwys Gatholig

16.  Nathan Sadler – y Gynghrair Efengylaidd

17.  Phil McCarthy – yr Eglwys Gatholig

18.  Richard Parry – Coleridge Cymru

19.  Russell George AS

20.  Sam Rowlands AS

21.  Sarah Jones

22.  Simon Plant – Replenished Life

23.  Siva Sivapalan – Cyngor Hindŵ Cymru

24.  Tara Moorcroft – Staff cymorth (Darren Miller AS)

25.  Tom Giffard AS

 

Ymddiheuriadau:

 

1.      Aled Edwards, Cytûn

2.      Andrew Misell, Alcohol Change

3.      Bonnie Willilams, Cyfiawnder Tai Cymru

4.      Y Tad Sebastian Jones, yr Eglwys Gatholig

5.      Kate McColgan, Cyngor Rhyng-ffydd Cymru

6.      Llyr Gruffydd AS

7.      Stephen Lodwick, Byddin Prydain

 

1. Estynnodd Darren groeso i bawb gan atgoffa’r aelodau o ddiben y grŵp, sef dathlu cyfraniad cymunedau ffydd ledled Cymru at gymdeithas ddinesig Cymru

Rydym wedi edrych ar dwristiaeth ffydd o’r blaen ond roedd yn gyfle da i edrych o’r newydd ar y mater pwysig hwn.

Cyflwynodd Darren y siaradwr, Dr Jaeyeon Choe, sy’n gweithio i Brifysgol Caledonian Glasgow ar hyn o bryd ond a arferai fod yn aelod cyfadran ym Mhrifysgol Abertawe. Mae'n ymchwilydd twristiaeth ac yn Olygydd Cyswllt y Tourism Geographies Journal.

2. Rhoddodd Jaeyeon gyflwyniad gan danlinellu’r canlynol:

·         Y bererindod yw'r dull hynaf o deithio mewn hanes ac mae wedi dod yn fwyfwy poblogaidd yn ystod y pandemig

·         Beth yw'r rhesymau dros yr adfywiad diweddar hwn? Lles ysbrydol, yr agwedd gymdeithasol a diwedd pandemig pan gollodd pobl anwyliaid

·         Yr agweddau hynny ar dwristiaeth ffydd sy’n ymwneud ag adfywio cymunedol: Dioddefodd Kumanokodo yn Japan oherwydd y tswnami ond mae wedi agor llwybr newydd erbyn hyn. Roedd y dref wedi bod yn farwaidd ond mae’r bobl leol yn croesawu’r llwybr newydd gan ei fod yn denu twristiaid.

3. Amser trafod dan gadeiryddiaeth Darren

Darren Millar AS

Pwysleisiodd Darren y manteision cadarnhaol gan ddweud mai Cymru oedd un o’r gwledydd cyntaf yn y byd, y tu allan i Israel, i ddatblygu cynllun gweithredu twristiaeth ffydd

Christine Abbas

Soniodd am y Rhwydwaith Pererindota Gwyrdd

Ainsley Griffiths

Soniodd am yr eglwysi canoloesol a Thyddewi. Eleni, bydd 900 mlynedd wedi mynd heibio ers i’r Pab Calixtus II ddatgan bod dwy bererindod i Dyddewi yn cyfateb i un i Rufain. Mae llawer yn digwydd yn Nhyddewi eleni. Er bod Tyddewi yn ymddangos yn anhygyrch i bererinion modern, roedd y sefyllfa’n wahanol yn yr oesoedd canol gan fod pobl yn aml yn teithio ar y môr ac roedd ar y llwybr llongau rhwng Môr Hafren ac Iwerddon yn ogystal â’r llwybr o’r Alban i Gernyw a Llydaw.

Sut allwn ni gryfhau’r cysylltiad â Llwybr Arfordir Cymru? Sut allwn ni ddenu cerddwyr i'r safleoedd?

Jaeyeon Choe

Mae angen trafodaeth rhwng cynrychiolwyr grwpiau cerdded, busnesau lleol ac awdurdodau lleol neu ni fydd dim yn digwydd. Y cam cyntaf fyddai cael cyllid i ddatblygu hyn.

Lee Gonzales (swyddfa Joel James AS)

Mae Lee yn ordinand yn yr Eglwys yng Nghymru ac mae wedi'i leoli ar Arfordir Treftadaeth Morgannwg. Fel rhan o'i waith mae'n edrych ar bererindod o Lanilltud Fawr, y fynachlog gyntaf ym Mhrydain a’r safle pererindod hynaf yn y DU.

Dywedodd fod yr  holl elfennau yno i sefydlu’r prosiect a’i roi ar waith (ee llwybrau bws, toiledau gerllaw) ond mae problem capasiti ac weithiau diffyg arbenigedd (e.e. dylunio gwefan, ble i gael arwyddion)

Darren Millar AS

A oes unrhyw wlad sydd wedi llwyddo i ddatblygu twristiaeth ffydd a phererindod yn arbennig o dda?

Jaeyeon Choe

Mae Japan wedi gwneud gwaith rhagorol.

Simon Plant

Roedd Simon wedi bod ar bererindod yr wythnos flaenorol. Holwyd am fynediad i bobl lai abl gan nad yw’n hawdd cerdded ar hyd llwybr yr arfordir. Ar Chwefror 26, bydd Songs of Praise ar Ddydd Gŵyl Dewi yn trafod pererindota

Sylwch - dyma'r linc - https://www.bbc.co.uk/iplayer/episode/m001jp1c/songs-of-praise-st-davids-pilgrimages

Jaeyeon Choe

Holodd a oedd cyllid a chymorth ar gael gan y Llywodraeth (y DU/Cymru)?

Mae'n teimlo bod pererindodau'n cael eu hyrwyddo yn Lloegr ac roedd yn ystyried tybed a oes ychydig mwy o gefnogaeth a gofal yn Lloegr. Cafodd sioc pan ddaeth i Gymru a gweld pa mor gyfoethog oedd hanes ei ffydd ac fe’i synnwyd bod cyn lleied o gefnogaeth, buddsoddiad a sylw’n cael ei roi iddo.

Richard Parry

Mae’n gweithio i'r Cultural Facilitation Company, Coleridge Cymru

Pa ymchwil sydd wedi’i wneud, neu a allai gael ei wneud, i’r manteision sydd ynghlwm wrth wybod eich bod yn byw mewn lle sy’n croesawu pobl sydd â diddordeb yng nghwestiynau mawr bywyd?

Jaeyeon Choe

Tynnodd sylw at Japan ac astudiaethau ar effaith gymunedol

Tom Giffard, Gweinidog yr Wrthblaid dros Dwristiaeth

Holodd sut y gellid codi ymwybyddiaeth o safleoedd pererindod yn effeithiol, nid yn unig ar garreg eich drws eich hun ond ar ochr arall y wlad, neu'n rhyngwladol. Sut y gellid marchnata hynny’n effeithiol?

O ran pobl sy’n dod i Gymru i ymweld â safleoedd pererindod o dramor, a’r effaith y mae hynny’n ei chael ar fusnesau, sut y gallwn ennyn diddordeb mwy o fusnesau lleol yn y broses honno?

Darren Millar AS

Mae twristiaid ffydd yn gwario mwy y pen na mathau eraill o ymwelwyr a hynny oherwydd bod pereririon yn aros dros nos. Felly mae angen i fusnesau lleol wneud rhagor i hyrwyddo pererindota a thwristiaeth ffydd. A yw hynny’n digwydd mewn lleoedd eraill yn y byd?

Jaeyeon Choe

Yn aml mae ymwelwyr ar bererindod yn aros am nifer o ddyddiau a byddant felly’n gwario arian ar lety, cludiant a bwyd ac yn gwario mewn caffis lleol etc. Felly ie, dylid ennyn diddordeb busnesau lleol er mwyn medru datblygu rhyw fath o becyn gwyliau ar gyfer twristiaeth pererindota. Mae'r safleoedd eisoes yn cael eu hyrwyddo ond pe bai rhyw fath o becyn yn cael ei ddatblygu, byddai'n gwneud y safleoedd yn fwy hygyrch ac yn ei gwneud yn haws i bobl ddod at ei gilydd.

Sam Rowlands AS, Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Dwristiaeth.

Nid yw hwn yn bwnc roedd y Grŵp Trawsbleidiol ar Dwristiaeth wedi'i drafod yn ystod y 18 mis y bu’n ei gadeirio, ond mae’n bosibl iddo gael ei drafod mewn Senedd flaenorol. Mae’n sicr yn rhywbeth y dylid ystyried ei gynnwys ar yr agenda a dylid hefyd ystyried rôl Croeso Cymru yn y gwaith o ran hyrwyddo a hybu’r pererindodau perthnasol. Roedd yn fodlon i’r cyfarfod hwn ofyn i dwristiaeth ffydd gaelei gynnwys fel pwnc i’w drafod yng nghyfarfod o’r Grŵp Trawsbleidiol ar Dwristiaeth yn y dyfodol.

Roedd rôl nid yn unig i Lywodraeth Cymru o ran marchnata a hyrwyddo hyn ond hefyd i awdurdodau lleol, o ran sicrhau mynediad a hyrwyddo arwyddion a llwybrau troed ac ati yn fwy lleol. Ni fyddai’r camau hyn yn gostus iawn ond gallant wneud gwahaniaeth mawr o ran codi ymwybyddiaeth a galluogi pobl i gyrraedd safleoedd.

Pan oeddwn yn arwain Cyngor Conwy am rai blynyddoedd meddai, datblygwyd Strategaeth Ddiwylliant a sicrhau bod diwylliant yn rhan ganolog o’r hyn yr oedd yr awdurdod lleol yn ei wneud ac roedd hyn yn cael ei ystyried yn wirioneddol bwysig. Tybed, yng nghyd-destun pererindota, a allem ni ennyn diddordeb rhai cynghorau sy’n rhoi pwyslais ar ddiwylliant?

O ran pererindota, yr enghreifftiau canoloesol hynafol sydd wedi’u trafod hyd yn hyn, ond mae hefyd agweddau mwy modern ar ffydd yng Nghymru, fel diwygiad 1904. A oes unrhyw un a all siarad am y cyfleoedd sydd ar gael mewn perthynas â rhai o’r mudiadau modern a gychwynnodd yng Nghymru a sut y gellir cadw’r atgofion hynny’n fyw?

Darren Millar AS

Rydym wedi crybwyll rhai o'r llwybrau anghydffurfiol mewn cyfarfodydd blaenorol ond nid yw'n ymddangos bod neb wedi manteisio ar y cyfle hwnnw. Jaeyeon, mae'r llwybr yn Japan a ddisgrifiaist yn un modern onid ydyw, ac mae hefyd yn gyfle i ymwelwyr fyfyrio?

Jaeyeon Choe

Ydy, mae’r llwybr y cyfeiriais ato yn Japan yn cael ei alw’n llwybr i bererinion ond nid yw’n llwybr crefyddol o gwbl mewn gwirionedd. Mae wedi bod yn boblogaidd erioed, ond daeth yn bwysicach fyth yn ystod Covid. Mae pobl yn chwilio am rywle sy’n cynnig tawelwch meddwl a chyfle i wella. Mae hyn yn wir am bob llwybr fodd bynnag a dyna pam y gall llwybrau’r arfordir a llwybrau naturiol Cymru fod yn fwy poblogaidd hyd yn oed os gellid eu datblygu ymhellach. Mae angen eu datblygu nid yn unig ar gyfer y twristiaid ffydd ond hefyd ar gyfer pobl leol ac ansawdd eu bywyd.

Darren Millar AS

Mae'r gymuned Iddewig wedi bod yn datblygu rhai Llwybrau Treftadaeth Iddewig yn Ne Cymru ac mae prosiect mawr ar y gweill ar hyn o bryd i ddatblygu llwybrau hanes Iddewig yng Ngogledd Cymru. Yn aml nid yw treftadaeth crefyddau eraill, fel Hindŵiaid a Mwslemiaid, yn cael eu gwerthfawrogi'n llawn. Ac wrth gwrs mae cysylltiadau cryf hefyd rhwng De Corea a Chymru, drwy Robert Germaine Thomas.

Gethin Rhys

Er bod twristiaid ffydd yn gwario arian, maent yn aml yn awyddus i aros mewn llety syml iawn. Mae nifer o eglwysi ar hyd a lled Cymru sy’n fodlon i ymwelwyr aros ynddynt - gwersylla gwyllt i bob pwrpas - ond  gyda'r fantais fawr o osgoi’r gwynt a'r glaw drwy fod dan do mewn adeilad eglwys.

Mae ymgynghoriad yn mynd rhagddo ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru i’w gwneud yn ofynnol cofrestru i gynnig llety dros nos a gosod safonau sylfaenol – mae hyn yn debygol o fod yn fygythiad i’r math o lety i bererinion yr wyf newydd ei grybwyll.

Jaeyeon Choe

Rwyf wedi clywed am hyn ac mae Ymddiriedolaeth Pererindod Prydain hefyd yn gweithio ar bererindod Airbnb. Mae'n wych bod eglwysi’n cynnig y math hwn o lety ond bydd angen gwestai ar gyfer rhai ymwelwyr bob amser.

Sam Rowlands AS

Mae Gethin wedi codi pwynt pwysig iawn. Cyfarfu Tom Gifford a minnau ag Airbnb ddoe ac maent hefyd yn pryderu am gynigion Llywodraeth Cymru. Mae deddfwriaeth debyg yn cael ei chyflwyno yn yr Alban, sy’n benodol iawn ac mae hyd yn oed yn dweud bod angen carped ar y llawr, a bydd hyn yn amlwg yn broblem i rai eglwysi.

Darren Millar AS

Byddwn yn codi hwn fel pwynt gweithredu ac rwy'n falch eich bod wedi’i godi, Gethin, oherwydd credaf mai nawr yw’r amser i wneud hynny, o ystyried yr ymgynghoriad.

Phil McCarthy

Rwy’n arwain prosiect yn yr Eglwys Gatholig yng Nghymru a Lloegr i adfywio ein traddodiad o fynd ar bererindod – a chreu llwybr cerdded newydd i bererindod ar gyfer pob eglwys gadeiriol a chysegrfa o fewn yr esgobaeth. Mae tair esgobaeth yng Nghymru ac mae gennym ni rai llwybrau cyffrous ar y gweill. Yng Nghaerdydd, o gadeirlan y dwyrain i gysegrfa Dewi Sant Lewis ym Mrynbuga; yn Wrecsam o'r eglwys gadeiriol i'r gogledd i Dreffynnon, cysegrfa Santes Gwenffrewi a dwy ym Minevia o bosibl.

A oes gennych chi unrhyw gyngor ynghylch y modd y gallwn fesur yr effaith?

Jaeyeon Choe

Dydw i ddim yn meddwl bod unrhyw system fonitro o gwbl ym maes twristiaeth pererindota yng Nghymru. Rwyf wedi siarad â rhanddeiliaid sy’n dweud faint o arian y maent yn ei wneud, gan gyfeirio at nifer yr ymwelwyr y maent wedi’u cael mewn blwyddyn ond nid oes neb yn cadw cofnod o’r niferoedd. Dylai’r Llywodraeth ac awdurdodau lleol ddatblygu system a buddsoddi yn y maes. Efallai y gall prifysgolion lleol helpu hefyd drwy gasglu a dadansoddi data.

Darren Millar AS

Mae Llywodraeth Cymru yn monitro twristiaeth i ryw raddau, er enghraifft y nifer sy’n aros dros nos, gwariant cyfartalog fesul ymwelydd dydd ac ymwelydd dros nos ond dylent ddadansoddi’r data i ddangos y math o ymwelydd a’r rhesymau dros ymweld.

Nathan Sadler

A oes unrhyw enghreifftiau negyddol y dylid tynnu sylw atynt?

Jaeyeon Choe

Rwyf wedi clywed bod ffermwyr lleol yn erbyn twristiaeth pererindota ond hoffwn siarad â nhw i weld a yw hyn yn wir. Nid wyf yn meddwl bod llawer o waith ymchwil wedi’i wneud i gael llais ffermwyr neu reolwyr er enghraifft, hynny yw pobl sy’n byw yn y gymuned a beth yw manteision twristiaeth o’r fath yn eu barn nhw.

Darren Millar AS

Cafwyd enghreifftiau o rai cymunedau sy’n teimlo’u bod yn cael eu llethu gan dwristiaid ond roedd yn ddiddorol gweld, Jaeyeon, sut mae’ch gwaith ymchwil chi wedi dangos bod twristiaeth ffydd yng Nghymru wedi bod o fudd i’r Gymraeg. Mae hyn yn rhywbeth a all helpu i berswadio cymunedau i barhau i groesawu twristiaid ffydd.

Altaf Hussain AS

Yng Nghymru, rydym yn agos iawn at natur, mae gennym lwybr arfordir hir a’n cefn gwlad ni yw un o’r rhai mwyaf diogel yn y byd. I droi’n ôl at bererindota, rwyf wedi ymweld â Saudi Arabia lawer gwaith ar bererindod i Mecca, Medina a llawer o safleoedd eraill.

Mae angen llyfryn sy’n cynnwys gwybodaeth am bob un o’r safleoedd pererindod yng Nghymru. Dylid cofrestru’r safleoedd a sefydlu swyddfa gofrestru. Es i Lanilltud Fawr ac mae cyfoeth o hanes yno, ond dim ond ychydig sy’n ymwybodol ohono.

Molly Conrad

Pan fyddwn yn sôn am dwristiaeth, gall swnio'n eithaf seciwlar yn aml ond sut gallwn ni sicrhau bod ffydd yn parhau i fod yn ganolog i bererindod? Pobl sydd â ffydd sy’n mynd ar bererindod fel arfer, ond rydym am groesawu eraill hefyd.

Jaeyeon Choe

Nid yw pawb yn rhannu’r un ffydd ac mae pererindota’n dod yn gynyddol amrywiol ei natur, ond wn i ddim beth yw’r ateb i'ch cwestiwn.

Darren Millar AS

Mae'n ddiddorol bod pobl heb ffydd yn dangos diddordeb cynyddol mewn cerdded a hyd y llwybrau hyn. Mae pobl yn cael eu denu gan wahanol ffactorau fel hanes neu harddwch naturiol ardal ond weithiau mae pobl hefyd yn cael profiad ysbrydol ac yn dod o hyd i ffydd. Rwy’n gweddïo’n aml y bydd pobl yn dod o hyd i ffydd oherwydd fy mod yn gwybod sut y mae fy ffydd wedi bod o fantais bersonol i mi.

4. Camau i’w cymryd

Cytunodd yr aelodau a oedd yn bresennol ar y camau a ganlyn:

a) Anfon y lincs a ganlyn at aelodau’r grŵp:

·         Ymddiriedolaeth Pererindod Prydain - https://britishpilgrimage.org/

·         Prosiect Tirweddau Ffydd - https://www.landscapesoffaith.org/

·         Rhwydwaith Pererindota Gwyrdd - https://www.greenpilgriimageeurope.net/

 

b) Ysgrifennu at Lywodraeth Cymru a:

 - gofyn iddi iddynt edrych ar eu Cynllun Gweithredu Twristiaeth Ffydd i weld a oes angen ei adnewyddu.

 - holi am y cyfleoedd i fuddsoddi mewn seilwaith i helpu pobl i gyrraedd y safleoedd hyn, yn enwedig y llwybrau trafnidiaeth a’r hyn y gellid ei wneud i helpu busnesau i sefydlu teithiau i ymwelwyr

 - gofyn iddynt ddatblygu catalog o'r holl gyfleoedd i bererindota yng Nghymru. Mae’r safleoedd yn bod eisoes ond nid oes rhyw lawer yn gwybod amdanynt gan nad ydynt yn cael eu cofnodi mewn cronfa ganolog.  Gallai fod yn adnodd ar-lein, ni fyddai angen iddo fod yn gostus a gallai gynnwys mapiau, lincs a lleoedd o ddiddordeb. Gellid ei ddatblygu dros amser.

c) Sam Rowland i gynnwys twristiaeth ffydd ar agenda cyfarfod o’r Grŵp Trawsbleidiol ar Dwristiaeth yn y dyfodol.

d) Awgrymodd Darren y gallai Jaeyeon drefnu Uwchgynhadledd Pererindod Cymru. Dywedodd y byddai’n falch iawn o drefnu hyn a dywedodd Darren y byddai’n hapus i’w chynnal yn y Senedd.

5. Dywedodd Darren wrth bawb mai dyddiad y cyfarfod nesaf fyddai dydd Iau 4 Mai, a hynny yn y cnawd gyda’r Archesgob Andy John. Byddai trefniadau hefyd ar gyfer y rhai na allent fod yn bresennol yn y cnawd ond a allai ymuno ar-lein.

Diolchodd i bawb am eu presenoldeb ac am eu cyfraniadau a daeth â’r cyfarfod i ben.